Cefais fy magu yn Abergynolwyn a Harlech a bum yn ennill bywoliaeth yn y maes perfformio ers 30 o flynyddoedd, gan weithio fel actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor ond bellach yn treulio llawer o amser yn gweithio fel cyfarwydd yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion.
Roeddwn yn un o sylfaenwyr Cwmni’r Fran Wen a thros y blynyddoedd bum yn gweithio i nifer o gwmniau theatr Cymru yn actio ac yn llunio sgriptiau.
Rhwng 1994 a 1998 roeddwn yn gyd-lynydd cwrs BTEC Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Merion Dwyfor yn Nolgellau; gadewais y coleg er mwyn treulio cyfnod yn gweithio ar Ynys Enlli.
Gweithiais gryn dipyn ar y radio ac yn achlysurol ar y teledu, ac mae gen i brofiad o gyfarwyddo sioeau plant a phobl ifanc gan gynnwys Irmenio gan Robat Arwyn ac Ann Llwyd – sioe ysgolion cynradd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 1994 oedd a chast o bron i 600 o blant!
Bum yn aelod o dim Talwrn y Beirdd - Gwylliaid Dolgellau a fi oedd yn canu’r gitar fas i’r grwp Pryd Ma’ Te.
Bum yn diwtor ar sawl cwrs yn Nhy Newydd, Llanystumdwy.
Byddaf yn portreadu Rala Rwdins yn weddol aml- ac yn cyd-weithio dipyn efo Angharad Tomos. Cyhoeddodd Y Lolfa ddwy gyfrol o’m caneuon i blant ‘Rala la la’ a Ffaldi-rwla-la - caneuon yn seiliedig ar gymeriadau a straeon Gwlad y Rwla. Mae CD yn cyd-fynd a’r ddwy gyfrol. Y Lolfa hefyd gyhoeddodd Nadolig yn Rwla, sioe gerdd wedi ei seilio ar gymeriadau Angharad Tomos.
‘Rwyn canu’r delyn, y piano, y gitar a theulu’r recorder.
Enillais Wobr Goffa Elfed Lewis am ganu baled yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009, ac ym Mro Morgannwg yn 2012, Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis, prif wobr y canu gwerin.
Bum yn cynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban Geltaidd yn Carlow ac enillodd fy nghân ‘Enlli’ y wobr gyntaf am gân werin wreiddiol.
Yn 1992 enillais wobr deithio Winston Churchill a threuliais dri mis yn byw a theithio a pherfformio ym Mhatagonia; bum hefyd yn teithio yn Awstralia.